Suo Gân - John Williams (约翰·威廉姆斯)
Written by:John Williams/John McCarthy
Huna blentyn ar fy mynwes
Clyd a chynnes ydyw hon
Breichiau mam sy'n dynn amdanat
Cariad mam sy dan fy mron
Ni chaiff dim amharu'th gyntun
Ni wna undyn â thi gam
Huna'n dawel annwyl blentyn
Huna'n fwyn ar fron dy fam
Paid ag ofni dim ond deilen
Gura gura ar y ddôr
Paid ag ofni ton fach unig
Sua sua ar lan môr
Huna blentyn nid oes yma
Ddim I roddi iti fraw
Gwena'n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw